Sadwrn Barlys

Ers y 19eg Ganrif bu dydd Sadwrn olaf mis Ebrill yn ddigwyddiad mawr yn Aberteifi. Ar Sadwrn Barlys byddai ffermwyr y cylch yn dod i’r dref i gyflogi gweithwyr ac archwilio meirch ar gyfer magu.
Erbyn hyn, y ceffylau sy’n mynnu’r sylw i gyd. Ar ôl y beirniadu, cânt eu gorymdeithio drwy’r dref ac mae torfeydd yn sefyll ar hyd y strydoedd i gael gweld yr olygfa. Erbyn hyn, ceir parêd hefyd o hen dractorau, ceir, beiciau modur a mwy.

  • Cyswllt: Tudor Harries
  • Ffon: 01239 841524

Gweler Hefyd . Listed Under Ebrill, Aberteifi, Diwylliant, Marchogaeth

Comments are closed.